Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Mehefin 2019
Amser:
09.30 -
12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5487
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Huw Irranca-Davies AC Mark Isherwood AC Caroline Jones AC Siân Gwenllian AC (yn lle Leanne Wood AC) |
Tystion: |
Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru Cian Sion, Canolfan Llywodraethiant Cymru Victoria Winckler, Sefydliad Bevan |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. Hefyd, croesawodd y Cadeirydd Caroline Jones a Dawn Bowden i'w cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i Carwyn Jones AC, Jenny Rathbone AC a Mohammad Asghar AC am eu cyfraniad i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Leanne Wood AC, ac roedd Siân Gwenllian yn dirprwyo ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru
· Cian Siôn, Canolfan Llywodraethiant Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan;
4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ynghylch data ystadegol a chydraddoldebau.
4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch papur trafod Archwilydd Cyffredinol Cymru.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.
7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau).